Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn falch o gyhoeddi eu bod nhw’n un o’r 29 grwp ledled Cymru sydd wedi derbyn grantiau gwerth cyfanswm o £295,952 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wneud gwelliannau bach yn eu cymunedau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mynd i’r afael â’r argfwng hinsawdd
Mae’r grantiau hyn yn rhan o beilot yng Nghymru i gefnogi prosiectau presennol y Loteri Genedlaethol i weithredu yn eu cymunedau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd y gwaith a fydd yn cael ei wneud gan gymunedau trwy’r peilot yn dylanwadu ar sut mae’r Gronfa’n gweithio’n ehangach ledled y DU yn y dyfodol.
Y llynedd, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei bod yn ymrwymo £100 miliwn dros 10 mlynedd i gefnogi cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Adfywio Cymru
Derbyniodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam gefnogaeth gan Adfywio Cymru i nodi pa gamau newid hinsawdd y dylent eu cymryd a pha effaith gadarnhaol y gallai hyn ei gael. Mae Adfywio Cymru yn raglen sy’n helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon, addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy.
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru:
“Mae pobl yn deall yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar ein cymunedau. Mae’r peilot Ychwanegol Newid Hinsawdd yn rhan o’n hymrwymiad i gefnogi pobl a chymunedau i wneud y newidiadau bach lle maen nhw’n byw i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.
“Fel yr ariannwr mwyaf o weithgaredd cymunedol yn y DU rydym yn gwybod bod gweithredu lleol nid yn unig yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd, ond hefyd yn cynnig digon o fuddion eraill i bobl a chymunedau. Dyna pam ei bod yn wych eu gweld yn ffynnu diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. ”
Perllan Gymunedol Licswm
Bydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn defnyddio £10,000 tuag at weithio gyda Grŵp Gweithredu Cymunedol Licswm i ddatblygu perllan gymunedol gyda’r nod o’i defnyddio i gynnal gweithgareddau dwyieithog a fydd yn annog ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy ac eco-gyfeillgar.
Dywedodd Anna Prysor Jones o Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn yr ychwanegiad hyn fydd ein galluogi i gynnwys elfen arall yn y Prosiect Symud Gyda Tedi. Bydd yr elfen newydd hon yn canolbwyntio ar weithio gyda’r gymuned leol i’w cefnogi i fyw mewn ffordd mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar a diogelu a chynyddu bioamrywiaeth.
“Mae’n wych bod y Loteri Cenedlaethol yn buddsoddi yn y Gymraeg gan ariannu prosiectau gan fudiadau fel y Mentrau Iaith sydd yn cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein cymunedau ac yn ddiolchgar i chwaraewyr y Loteri sy’n galluogi datblygu prosiectau o’r fath.”
I ddarganfod mwy am y prosiectau eraill sydd wedi llwyddo’i dderbyn grant gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cliciwch yma.