Mae gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam brosiect newydd cyffrous sy’n anelu at nodi cyfleoedd i ddatblygu gofal plant cyfrwng Cymraeg trwy agor meithrinfa newydd i wasanaethu Siroedd y Fflint a Wrecsam.
Fel rhan o’n hymarfer ymgynghori byddem yn ddiolchgar pe bai pobl sy’n byw a/ neu’n gweithio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn medru cwblhau holiadur byr i ni sy’n edrych ar arferion teithio i’r gwaith mewn perthynas ag ymrwymiadau gofal plant.
Mae 10 cwestiwn i gyd, a ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i’w gwblhau.
Cwblhewch yr holiadur hwn erbyn dydd Iau, 09.04.2020.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Bronwen Wright ar bronwen@menterfflintwrecsam.cymru.
Diolch o flaen llaw am eich cymorth.