Fore Dydd Mercher, 4ydd o Orffennaf cafodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam y fraint o ddechrau Ras yr Iaith 2018 ar ran y genedl gyfan. Mae’r Ras yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn, ond ers ei sefydlu nôl yn 2014 hon oedd y tro cyntaf iddi ymweld â gogledd ddwyrain Cymru.
Rhedeg dros y Gymraeg
Nod y Ras yw codi arian i brosiectau a gweithgareddau Cymraeg, a drwy wneud hynny, codi proffil ac ymwybyddiaeth i’r iaith a dathlu’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru gyfan.
Daeth disgyblion o: Ysgol Croes Atti, Fflint; Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug; Ysgol Gwenfro, Wrecsam ac aelodau o wahanol fudiadau a sefydliadau ynghyd i Lwyn Isaf, Wrecsam yn eu melyn, coch a gwyrdd (lliwiau ras) i redeg o amgylch y dref. Fe’u croeaswyd yn nôl i Sgwar y Frenhines lle roedd Dewi Pws yn barod i’w llongyfarch a diolch iddynt am redeg dros y Gymraeg.
Gwirfoddoli dros y Gymraeg
Tra’n rhedeg y Ras roedd baton sy’n cynrychioli’r iaith Gymraeg yn cael ei basio o un person i’r llall- yn symbol o’r Gymraeg yn cael ei phasio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth. Yn y baton hwnnw, roedd neges arbennig wed’i osod ynddo.
Eleni, roedd neges y Ras wedi ei hysgrifennu gan Elena Brown, gwirfoddolwraig ifanc gyda Menter Iaith Sir Ddinbych. Mae’r neges yn un syml ac yn pwysleisio pwysigrwydd gwirfoddoli dros y Gymraeg. Mae digon o gyfleoedd gwirfoddoli i’w cael gyda’r Mentrau Iaith. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam,
“Roeddem yn hynod hapus o gael croeaswu’r Ras i’r ardal am y tro cyntaf ac yn falch iawn o weld cynrychiolaeth o ysgolion o siroedd Fflint a Wrecsam yn cymryd rhan. Roedd hi’n hyfryd, nid yn unig i siaradwyr Cymraeg ond i’r gymuned gyfan gan ei fod yn fodd o gael yr holl gymuned at ei gilydd i ddathlu eu hunaniaeth unigryw.”
Hoffem ddiolch i’r holl redwyr am gymryd rhan ac i’r holl stiwardiaid am ein cynorthwyo a’n helpu yn ystod y bore. Diolch hefyd i’r busnesau lleol, mudiadau a sefydliadau am eu nawdd tuag at gymal Wrecsam o’r Ras: Professor Llusern; Amser Babi Cymraeg; Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam; Cangen Glyndŵr Coleg Cymraeg Cenedaethol a Phwyllgor Sir Wrecsam o Fudiad Meithrin. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistrefol Wrecsam am eu cydweithrediad dros y misoedd diwethaf i’n galluogi i gynnal Cymal Wrecsam o Ras yr Iaith. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.
Ymweld ag ardaloedd eraill
Yn dilyn cymal Wrecsam, roedd Ras yr Iaith yn mynd ymlaen i ymweld ag ardaloedd eraill ar hyd a lled Cymru a’r baton yr iaith yn cael ei drosglwyddo o gymuned i gymuned gan orffen yng Nghaerffili ar Ddydd Gwener y 6ed o Orffennaf.