Camu ‘Mlaen – Noson Hwyl i’r Teulu a lansio gwersi Cymraeg i Deuluoedd

 

‘Stafell 1864, Y Cae Ras, Wrecsam fydd y lle i fod ar Nos Wener, Mehefin 8fed, 2018 rhwng 5:00-8:00pm wrth i Gamu ‘Mlaen gymryd lle.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu noson o hwyl i deuluoedd ar gyfer lansio gwersi Cymraeg i rieni gan Goleg Cambria a chlwb i blant rhwng 5-11 oed gan yr Urdd ar yr un pryd.

Mae llu o weithgareddau wedi cael eu trefnu ar gyfer y noson gan gynnwys paentio wynebau, modelu balŵns, gweithgareddau crefft a gweithdy syrcas. Bydd bwffe ysgafn hefyd yn cael ei ddarparu a mae’r cyfan oll am ddim. Bydd hefyd ymweliadau arbennig yn ystod y noson gan ein gwesteion arbennig; Magi Ann, Dewin a Mr Urdd.

Gwersi Cymraeg i deuluoedd

Bwriad y noson yw lansio cwrs rhagflas 5 wythnos o wersi Cymraeg i deuluoedd a fydd yn gyfuniad o wersi ffurfiol a chyfle i ddysgu’n anffurfiol drwy sgwrsio a chymdeithasu â phaned ar ddiwedd pob gwers.

Yn Sir y Fflint, mi fydd y gwersi yn dechrau yn Nghaffi Isa, Mynydd Isa ar Fehefin 12fed rhwng 4:00-6:00pm

Yna, yn ardal Wrecsam, bydd y gwersi yn dechrau nos Iau, Mehefin 14eg yng Nghanolfan Gymunedol Acton rhwng 4:00-6:00pm ac ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth rhwng 3:30-5:30pm ar yr un noson.

Gallwch gofrestru o flaen llaw i’r gwersi drwy ffonio 01978 267 596 ac mae croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl a dysgu mwy am y gwersi yn ystod Camu ‘Mlaen.