Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam
Cafwyd diwrnod anhygoel i ddathlu Nawddsant Cymru yn Wrecsam ar Fawrth y 1af. Daeth cannoedd o bobl o bob rhan o’r gymuned yn Wrecsam ynghyd i ddathlu ac ymfalchio yn eu Cymreictod a chymryd rhan yn yr orymdaith drwy strydoedd y dref. Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrescam, sy’n cael ei drefnu gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam gyda chydweithrediad a chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bellach yn ddigwyddiad blynyddol fawreddog yng nghalendr tref fwyaf gogledd Cymru.
Roedd y tref yn fôr o goch, gwyn a gwyrdd, baneri Cymru, balŵns a chennin pedr wrth i deuluoedd a phobl o bob oed ddod i gymryd rhan yn yr orymdaith trwy’r dref dan arweiniad ysbrydoledig Band Cambria. Am y tro cyntaf eleni, ymunodd Band Colliery Ifton yn yr orymdaith. Roedd sawl wyneb cyfarwydd yn bresennol ar gyfer y dathliadau hefyd gan gynnwys Magi Ann, Ffi Ffi y ci defaid a Chrys y Ddraig.
Parhau â’r dathliadau
Yn dilyn yr orymdaith, parhawyd â’r dathliadau’n Nhŷ Pawb gyda Michael Ruggiero (‘Mic ar y Meic’) yn cyflwyno a diddanu’r dorf. Ymunodd pawb i gyd-ganu’r Anthem Genedlaeth ac ymunodd pawb a’r cerddor lleol, Andy Hickie i ganu Calon. I ddilyn, diddanwyd y dorf gan berfformiadau gan Gôr DAW ac Andy.
Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am eu cefnogaeth. Braf oedd cael Maer Wrecsam, Cynghorydd Rob Walsh a Phrif Weithredwr CBSW, Ian Bancroft yn gorymdeithio gyda ni. Diolch hefyd i’r Heddlu ac Ambiwlans St. Ioan am eu cymorth a chefnogaeth.
Mae dathliadau dydd Gŵyl Dewi wedi bod yn tyfu pob blwyddyn ac erbyn heddiw wedi’i sefydlu fel digwyddiad blaenllaw yng nghalendr Wrecsam.
Rydym yn edrych ymlaen at weld yr orymdaith yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd a pharhau i ddod â’r gymuned at ei gilydd i’r dyfodol.”