A hithau’n dipyn cynhesach ar Ddydd Gŵyl Dewi nag y llynedd, cafwyd diwrnod anhygoel yn dathlu diwrnod Nawddsant Cymru yn Wrecsam ar Fawrth y 1af. Daeth dros fil o drigolion o bob rhan o’r gymuned yn Wrecsam ynghyd i ddathlu ac ymfalchio yn eu Cymreictod a chymryd rhan yn yr orymdaith drwy strydoedd y dref. Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrescam, sy’n cael ei drefnu gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam gyda chydweithrediad a chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bellach yn ddigwyddiad blynyddol fawreddog yng nghalendr tref fwyaf gogledd Cymru.
Roedd y dref yn fôr o goch, gwyn a gwyrdd, baneri Cymru, balŵns a chennin pedr wrth i deuluoedd a phobl o bob oed ddod i gymryd rhan yn yr orymdaith trwy’r dref dan arweiniad ysbrydoledig Band Cambria. Ymunodd nifer o fudiadau lleol yn y dathlu eto eleni, gan gynnwys Mudiad Meithrin, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria, Gwasanaeth Tân ac Achub a chynrychiolwyr o Garchar y Berwyn. Mynychodd y cymeriadau poblogaidd Magi Ann a Dewin, ac roedd Ffi Ffi y ci defaid a Chrys y Ddraig hyd yn oed yn bresennol yn ystod yr orymdaith.
Yn dilyn yr orymdaith, parhawyd â’r dathliadau’n Nhŷ Pawb gyda Michael Ruggiero (‘Mic ar y Meic’) yn cyflwyno a diddanu’r dorf. Ymunodd pawb i gyd-ganu Calon Lân gyda’r cerddorion lleol, Andy Hickie a Hazel Ogden a chafwyd cyfle i gyd-ganu’r Anthem Genedlaethol. I ddilyn, diddanwyd y dorf gan berfformiadau gan Gôr DAW ac Andy Hickie a Hazel Ogden.
Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri hefyd. Cystadleuaeth yw hon i annog busnesau’r dref i addurno eu ffenestri ar y thema Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu popeth Cymraeg. Daeth y Maer i’r canlyniad hwn:
1af- Gerrards, Stryd yr Arglwydd.
2il- Ambiwlans Awyr Cymru, Stryd Henblas
3ydd- Jane Smellie Opticians, Stryd Gaer