Mae Symud Gyda Tedi yn prosiect cyffrous, newydd mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych ymlaen i gyflwyno i chi yn y flwyddyn newydd. Bydd y prosiect yn gyfle i blant bach gadw’n heini drwy ddefnydd o gân a stori.
Allwch chi ein helpu?
Mae gennym gyfle gwych i berson brwdfrydig a hwyliog i fod yn rhan o’r prosiect hwn, gan ein bod yn chwilio am unigolyn i arwain y sesiynau.
A oes gennych chi’r gallu i gyflwyno ac arwain sesiynau Symud Gyda Tedi?
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 13.01.20
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech chi fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch:
Ebost: glesni@menterfflintwrecsam.cymru
Ffôn: 01352 744 040