Mae’r unig ras gyfnewid sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn ehangu eleni.
Am y tro cyntaf eleni bydd Ras yr Iaith yn ymweld â gogledd ddwyrain Cymru. Bydd y Ras yn cychwyn yn nhref Wrecsam ar 4ydd o Orffennaf cyn gorffen lawr yn y de yng Nghaerffili ar Orffennaf y 6ed.
Dathlu’r Gymraeg
Eleni fydd y drydedd gwaith i’r Ras, sy’n cael ei threfnu gan Fentrau Iaith Cymru, gael ei chynnal ers ei dechreuad nôl yn 2014. Pwrpas y Ras yw dathlu’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru gyfan. Yn ystod y tridiau bydd y Ras yn ymweld â 17 o drefi gwahanol led led y wlad, gan gynnig tridiau llawn o redeg, sŵn, egni a mwynhâd.
Mae’r Ras yn seiliedig ar rasys tebyg sydd yn cymryd lle yng Ngwlad y Basg, Llydaw ac Iwerddon sy’n anelu at ddod â phobl at ei gilydd i ddathlu a hybu ieithoedd lleiafrifol.
Mudiadau lleol yn elwa
Caiff y nawdd sy’n cael ei dderbyn i gynnal y Ras ei ddosbarthu ar ffurf grantiau i fudiadau amrywiol. Yn 2016, codwyd dros £42,000 mewn grantiau er mwyn i fudiadau hyrwyddo’r Gymraeg yn eu hardaloedd. Rhannwyd y swm hwn gyda tua 45 o fudiadau Cymraeg ar draws yr ardaloedd yr ymwelwyd â hwy.
Dywedodd Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:
“Rydym yn hapus iawn o allu arwain ar y trefniadau er mwyn gwasgaru neges y Ras i lefydd newydd eleni.”
Ychwanegodd:
Fel rhwydwaith o endidau sy’n bodoli er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau mae’n bleser gweld y ras yn tyfu pob tro ac yn gallu gwneud gwahaniaeth dros Gymru.”
Boed yn grwp o ffrindiau, yn ysgol, teulu, mudiad neu fusnes mae croeso mawr i chi gyd gymryd rhan drwy redeg, cefnogi ar ochr yr heol, drwy stiwardio neu drwy noddi cymal o’r Ras.
Galw am redwyr a gwirfoddolwyr
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn chwilio am unigolion i redeg cymal Wrecsam o’r Ras. Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu gyda’r stiwardio. Os hoffech fwy o fanylion ynglyn a’r cymal hwn ac eisiau bod yn rhan o’r hwyl, cysylltwch gyda chris@menterfflintwrecsam.cymru neu ffoniwch 01352 744 040.
Bydd unrhyw gymorth neu gefnogaeth yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn.
Am fwy o wybodaeth am Ras yr Iaith ewch i www.rasyriaith.cymru.
Ffurflenni stiwardio a ffurflenni noddi i’w gweld isod.