Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar Nos Fawrth 20fed o Dachwedd, 2018 am 6:00.p.m yn:
Ystafell B03/04, Adeilad Yr Ysgol Fusnes, Coleg Cambria, Ffordd Treffynnon, Llaneurgain, Sir y Fflint, CH7 6AA
Bydd cyfle i chi siarad â staff a Chyfarwyddwr y Fenter a thrafod eich syniadau am y math o weithgareddau neu brosiectau yr hoffech ein gweld ni’n darparu yn y dyfodol. Bydd adloniant byw i ddilyn gan Gwilym Bowen Rhys a bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y noson.
Os hoffech dderbyn copi o Agenda, Cofnodion, Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol diweddaraf Menter Iaith Fflint a Wrecsam, cysylltwch â ni.
Buasem yn ddiolchgar petaech yn medru cadarnhau os yr ydych yn bwriadu bod yn bresennol ai peidio erbyn Dydd Gwener, 16eg o Dachwedd, drwy ddilyn ddilyn y ddolen yma.
Croeso cynnes i chi gyd!