
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam a gynhelir ar Nos Fercher, 30ain o Dachwedd 2022 am 7:00pm yn Ystafell Aura, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, CH5 1SA.
Bydd modd hefyd ymuno dros Zoom ar y noson a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.
Bydd cyfle i chi siarad â Staff a Chyfarwyddwr y Fenter a thrafod eich syniadau am y math o weithgareddau neu brosiectau yr hoffech ein gweld ni’n darparu yn y gymuned.
Byddwn hefyd yn croesawu Francesca Sciarrillo, enillydd Medal Dysgwyr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2019, fydd yn trafod ‘Fy Nhaith i’r Iaith’.
Dilynwch y dolenni i lawrlwytho copi o’r Agenda, Cofnodion, Cyfrifon a’r Adroddiad Blynyddol diweddaraf.
Buasem yn ddiolchgar petaech yn medru cadarnhau os yr ydych yn bwriadu bod yn bresennol ai peidio erbyn Dydd Llun, 28ain o Dachwedd, drwy e-bostio Gwen@menterfflintwrecsam.cymru.
Croeso cynnes i bawb!