Ddydd Mercher, Awst 7fed am 4 o’r gloch ym mhabell Mentrau Iaith Cymru ar faes yr Eisteddfod, cynhelir sesiwn holi Rebecca Roberts, awdur y nofel newydd Mudferwi.
Gwylio cystadlaethau coginio ar y teledu yw un o hoff ddiddordebau Rebecca Roberts a’i gŵr ac felly ‘does ryfedd fod yr hyn a all ddigwydd y tu ôl i’r llenni ar raglenni coginio yn ffurfio rhan o gefnlen y nofel, Mudferwi.
Mudferwi
Merch ifanc ddihyder a swil sy’n byw mewn pentref yng ngogledd ddwyrain Cymru yw Alys ar ddechrau’r nofel. Mae’n gweithio yng nghegin yr ysgol y mae ei mham yn brifathrawes arni ond wrth i’r ysgol orfod wynebu toriadau cyllidol, rhaid i Alys ddod o hyd i waith yn rhywle arall. Yn ystod y nofel dilynnwn Alys ar y bennod nesaf yn ei bywyd a’i gweld yn datblygu’n ferch hyderus, bodlon a phendant ei barn. Gwelwn ni hi’n wynebu rhwystredigaeth dyslecsia, cenfigen gwenwynig cydweithwyr, dylanwad negyddol rhieni ac fe’i gwelwn yn ei chynefin yn ogystal â mewn prysurdeb cegin yn un o fwytai gorau Llundain. Ond hefyd, fe welwn Alys yn dod i’w hoed wrth iddi ddod allan o’i chragen a cheisio dod o hyd i’w lle a’i rhan yn y byd.
Bu’r awdur Manon Steffan Ros yn mentora Rebecca wrth iddi ddatblygu’r nofel. Dywedodd amdani,
“Mae Rebecca Roberts yn un o’r awduron prin sy’n eich tynnu i mewn i stori yn llwyr- rydw i’n eistedd i lawr efo’i nofel, ac yn sydyn mae oriau wedi mynd heibio a minnau wedi ymgolli’n llwyr! Sgwennu gafaelgar, ysgafn gyda chymeriadau sy’n hawdd uniaethu â nhw. Dyma i chi nofel am gariad, teulu, ac, wrth gwrs- bwyd! Am rysait!”
Nia Roberts, Golygydd Creadigol Gwasg Carreg Gwalch fu’n gyfrifol am lywio’r nofel drwy’r wasg. Dywedodd,
“Ar ôl prysurdeb yr Eisteddfod, chewch chi ddim byd gwell na dianc i fyd y dychymyg a chladdu eich hun mewn nofel am gariad, tyndra teuluol a gwres llethol y gegin a’r stiwdio deledu! Mae’n stori am oresgyn anawsterau a wynebu heriau, ac wedi ei lleoli mewn rhan o Gymru sydd yn weddol ddiarth i nofelau Cymraeg.”
Cyn aelod o staff Menter Iaith Fflint a Wrecsam
Mae Rebecca yn gyn ddisgybl o Ysgol Glan Clwyd ac yn byw ym Mhrestatyn gyda’i gŵr a’i dau o blant, Elizabeth a Thomas. Yn ogystal ag ysgrifennu, mae Rebecca hefyd yn cyfieithu ac yn cynnal seremonïau dyneiddiol (di-grefydd, ac yr unig un yng Nghymru sy’n gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi ei hyfforddi gan Humanists UK). Am bron i ddegawd, bu Rebecca hefyd yn gweithio i Fenter Iaith Fflint a Wrecsam, a rydym fel Menter yn hynod falch ohoni. Mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ei hail nofel i bobl ifanc yn y Gymraeg, #Helynt, fydd yn y siopau flwyddyn nesaf.
Bydd Mudferwi ar werth yn yr Eisteddfod ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£7.99) ac ar wefan Gwasg Carreg Gwalch.