Mae rhai o o drefi Sir Y Fflint wedi bod yn fôr o goch, gwyn a gwyrdd yn ddiweddar wrth iddynt gymryd rhan yng nghystadleuaeth Addurno Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Ers sawl blwyddyn bellach, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi bod yn trefnu’r Gystadleuaeth Addurno Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi ar ran Cyngor Sir y Fflint.
Mae’r gystadleuaeth wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac eleni ymunodd busnesau yn Yr Wyddgrug, Treffynnon, Y Fflint, Cei Connah a Shotton yn y dathliadau wrth addurno’u ffenestri. Mae’r gystadleuaeth yn annog busnesau lleol i addurno’u ffenestri ar y thema Dydd Gŵyl Dewi gyda’r nod o ddathlu holl bethau Cymreig.
Eleni, cafodd y cystadlaethau eu beriniadu unai gan Feiri’r trefi neu cynrychiolwyr o Gyngor Tref y trefi ac nid oedd yn dasg hawdd dod i benderfyniad. Dyma’r canlyniadau:
Yr Wyddgrug (Beirniad: Tim Maunders, Maer Yr Wyddgrug)
1af: Nightingale House Hospice Shop, Stryd Newydd
2il: Mel’s Café, Stryd Wrecsam
2il: Dawnsio Dance, Ffordd Earl
3ydd: Flowers by Anne, Indoor Market
3ydd: Spoons & Fork, Ffordd Earl
Treffynnon (Beirniad: Mr Paul Johnson, Maer Treffynnon)
1af: 2nd Time Around, Stryd Fawr
2il: The Flower Bowl, Stryd Fawr
2il: Tower Crafts Holywell, Tower Gardens
3ydd: Shear Envy by Sally, Stryd Fawr
Y Fflint (Beirniad: Mrs Norma Davies, Maer Y Flint)
1af: Llyfrgell Y Fflint, Stryd yr Eglwys.
2il: Just for you Laundry, Stryd Gaer
2il: Home Farm Trust / NEWCIS Charity Shop, Stryd yr Eglwys
3ydd: Delyn Windows Ltd, Ffordd Gaer
3ydd: Emma’s Country Choice Florists, Stryd Halkyn
3ydd: Lloyds Pharmacy, Stryd yr Eglwys
Cei Connah (Beirniad: Aelodau o Gyngor Tref Cei Connah)
1af: Evergreen Dry Cleaners, Stryd Fawr
2il: Cambrian Aquatics, Wepre Drive
2il: Quay Café, Ffordd Fron
3ydd: Dragon Trophies, Stryd Fawr
Shotton (Beirniad: Disgyblion Ysgol Croes Atti, Shotton a Mrs Gillian Brockley, Cadeirydd Cyngor Tref Shotton)
1af: Nightingale House Hospice Shop, Ffordd Gaer
2il: Cancer Research UK, Ffordd Gaer
3ydd: Kk’s Hair & Beauty, Ffordd Gaer
Gill Stephen, Menter Iaith Fflint a Wrecsam’s Chief Officer said:
“Diolch yn fawr iawn i’r holl fusnesau am gystadlu yn y gystadleuaeth ac am eu hymdrechion. Roedd hi’n braf iawn gweld cymaint o fusnesau yn cymryd rhan. Llongyfarchiadau i’r buddugwyr a phob lwc i’r busnesau at y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.”