Ers sawl blwyddyn bellach, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi bod yn trefnu Cystadleuaeth Addurno Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r gystadleuaeth yn annog busnesau lleol i addurno’u ffenestri ar y thema Dydd Gŵyl Dewi gyda’r nod o ddathlu holl bethau Cymreig.

Mae’r gystadleuaeth wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, ac eleni cymerodd dros ddeugain o fusnesau ran gan addurno eu ffenestri. Cafodd y gystadleuaeth ei feirniadu gan y Cynghorydd Rob Walsh, Maer Wrecsam ac nid oedd yn dasg hawdd gwneud y penderfyniad terfynol.

Cafodd enillwyr Cystadleuaeth Addurno Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam ei gyhoeddi gan Cyng. Rob Walsh yn ystod Dathliad Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ar Ddydd Sul, 1af o Fawrth. Dyma’r canlyniadau:

1af: Reid & Roberts Estate Agents, Stryd Fawr

2il:  Wales Air Ambulance, Stryd Henblas

= Cydradd 3ydd: Apollo Taxis, Stryd Gaer

=3ydd: Dynamic Charity Shop, Stryd yr Arglwydd

=3ydd: Whitegates Estate Agents, Stryd y Brenin

Meddai Gill Stephen, Prif Weithredwr Menter Iaith Fflint a Wrecsam:

“Diolch yn fawr iawn i’r holl fusnesau am gystadlu yn y gystadleuaeth ac am eu hymdrechion. Roedd hi’n braf iawn gweld cymaint o fusnesau yn cymryd rhan. Llongyfarchiadau i’r buddugwyr a  phob lwc i’r busnesau at y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.”