Edrych ymlaen at #EURO2020?
Gyda chystadleuaeth Euro2020 yn agosau, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Mentrau Iaith yn chwilio am ‘chants’ Cymraeg neu ddwyieithog newydd er mwyn i’r Wal Goch gefnogi Cymru, o gartref ac o’r dorf.
Mae’r gystadleuaeth ‘Gwlad y Chants’ yn agored i bawb, gyda thri categori benodol: oedran cynradd, oedran uwchradd ac oedolion. Gellir mynd ati i greu chant fel unigolyn, grŵp, ysgol neu glwb. Mi fydd panel o feirniaid yn cael y dasg o ddewis y tri gorau ymhob categori a bydd rhain yna’n mynd ymlaen i’r rownd derfynol a fydd yn cael eu beirniadu drwy bleidlais gyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwobr arbennig
Mi fydd enillydd pob categori yn derbyn un crys arbennig wedi’i arwyddo gan garfan Euro2020 a chaiff cyfansoddwr y ‘chant’ gorau un y cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer y garfan.
I gystadlu, anfonwch recordiad o’ch ‘chant’ at anna@menterfflintwrecsam.cymru erbyn Dydd Mercher, 5ed o Fai. Os hoffech gymorth gyda geirfa pêl-droed Cymraeg, dilynwch y ddolen hon. Mi fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi’r enillwyr ar y 3ydd o Fehefin, mewn pryd ar gyfer cefnogi Cymru yn nhwrnamaint Euro2020.