Dangosiad arbennig o’r ffilm wobrwyol â chyflwyniad gan Jayne Francis-Headon
Mae’r ffilm Pride (2014), yn olrhain hanes grŵp o ymgyrchwyr hoyw a weithiodd i gefnogi teuluoedd y glowyr yn ystod streic 1984. Ynddi fe bortreadir y berthynas unigryw a chlos a ddatblygwyd rhyngddynt yn ystod y cyfnod, perthynas glos oedd yn wahanol iawn i unrhyw beth a welwyd o’r blaen. Enwebwyd y ffilm am sawl gwobr fel Ffilm Orau Prydeinig a Debut Eithriadol gan Ysgrifennwr Prydeinig.
Ar nos Sadwrn y 9fed o Fehefin 2018 am 7 o’r gloch bydd dangosiad arbennig o’r ffilm yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Ceir hefyd sgwrs a chyflwyniad gan ein gwestai arbennig, Jayne Francis-Headon.
Dim ond merch ifanc oedd Jayne yn ystod streic y glowyr yn 1984 ond roedd ei mam, Hefina Headon, yn aelod blaenllaw a gweithgar iawn o Undeb y Glowyr, Cangen Dulais. Cafodd Hefina ei phortreadu yn y ffilm gan yr actores Imelda Staunton. Fe enillodd Imelda Staunton, Actores Orau mewn Rôl Gefnogol yn y British Independent Film Awards a fe’i henwebwyd am BAFTAs a Gwobrau Chlotrudis ymhlith gwobrau eraill.
Profiad Unigryw
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam a Theatr Clwyd yn falch iawn o allu cynnig y cyfle i chi gyfarfod â rhywun oedd wedi byw trwy’r profiad unigryw hwn, a all gynnig golwg bersonol iawn ar y digwyddiadau yn y ffilm gan gynnwys straeon teuluol a phytiau o ffilmiau cartref. Cawn olwg unigryw ar fywyd bob dydd tu ôl i’r ffilm, sut oedd hanes teuluol Jayne wedi plethu’n dynn â hanes y diwydiant a’r undebau ers cenedlaethau, a hefyd sut wnaeth y profiad ei chynorthwyo i dyfu i fyny i fod ‘yn berson ei hun’.
Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
“Mae gan Jayne brofiad personol o fyw drwy gyfnod cythryblus o newid mawr wnaeth esgor ar rywbeth arbennig iawn. Rydym yn arbennig o falch o’r cyfle i gydweithio â hi er mwyn cynnig profiad hollol unigryw a chyffrous i’r gymuned leol.”
Bydd y digwyddiad dwyieithog hwn yn cynnig cyfieithu-ar-y-pryd ac felly bydd yr un mor addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg a Saesneg.