Oherwydd y sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran Coronafeirws, ni fyddwn yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau/ gweithgareddau am y tro, a hynny er iechyd a lles y cyhoedd, staff a gwirfoddolwyr.
Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â chi drwy ein cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf a’ch diweddaru’n syth a mor rheolaidd a phosib os oes unrhyw ddatblygiadau pellach.
Mae hefyd croeso i chi gysylltu â ni drwy:
- E-bostio’n staff yn uniongyrchol
- E-bostio ein e-bost cyffredinol: gwybod@menterfflintwrecsam.cymru
- Ffonio’r rhif canlynol: 07578 716 081
Ni fydd modd i chi gysylltu â ni drwy ffonio ffôn y swyddfa am y tro.
Cadwch yn saff!
Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth