Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn trefnu dathliadau Gŵyl Ddewi yn flynyddol ac eleni bydd y dathliadau yn dychwelyd i gynnwys dathliad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.

Rydym yn falch o gyhoeddi bydd dathliad cyhoeddus yn Nhreffynnon ar ddydd Iau, Mawrth 2il 2023 ac estynnwn wahoddiad cynnes i’r gymuned gyfan i ddod ynghyd i ymuno yn yr hwyl a dathlu Gŵyl Nawddsant Cymru.

Bydd gorymdaith lawr yr Heol Fawr dan arweiniad Band Cambria am 10:30am ac adloniant cyffroes ar lwyfan Gerddi’r Twr gan artistiaid amrywiol gan gynnwys Jacob Elwy, Megan Lee ac Andy Hickie.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi y busnesau a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth addurno ffenestri Gŵyl Ddewi y dref, yn ogystal a chyhoeddi’r enillwyr yn nhrefi eraill y Sir; Yr Wyddgrug, Shotton, Cei Connah a Fflint ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts: 

“Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam unwaith eto i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. 

Mae dathlu ein diwylliant a’n treftadaeth yn ddigwyddiad arbennig iawn yn Sir y Fflint ac yn bwysig iawn i ni hefyd.  Mae’r rhaglen ddigwyddiadau yn gyfle i bawb gymryd rhan a mwynhau’r dathliadau.

Hoffaf ddiolch i’r Fenter am eu gwaith caled yn llunio’r rhaglen amrywiol hon ac i’r sefydliadau sy’n ymwneud ac yn cymryd rhan yn y digwyddiadau. 

Bydd amrywiaeth o weithgareddau i’w mwynhau ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam gan gynnwys lluniau lliwio, Cwis Dewi Sant, fideo cadw’n heini i deuluoedd; Symud gyda Tedi a llawer mwy.

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled y Sir a Chymru gyfan i ddathlu Dydd ein Nawddsant, felly os am ymuno yn y dathliadau mewn unrhyw ffordd, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #DewiSiryFflint a dilynwch wefannau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam am ddiweddariadau.

#DewiSiryFflint