Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi bob amser yn un o uchafbwyntiau y flwyddyn yn Wrecsam ac ni fydd 2023 yn eithriad.  Unwaith eto eleni mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, wedi trefnu dathliadau cyffrous ar ddydd Mercher, Mawrth 1af 2023.

Eleni bydd adloniant gan artistiaid amrywiol i groesawu’r tyrfaoedd tu allan i Neuadd y Dref o 12:00pm ymlaen a bydd yr orymdaith (yn) ymgynnull am 12.45pm cyn cychwyn yn brydlon am 1.00pm dan arweiniad Band Cambria.

Bydd yr orymdaith yn ymlwybro drwy’r dref gan orffen yn ôl yn Sgwâr y Frenhines lle bydd cyfle i bawb cyd-ganu’r Anthem Genedlaethol a Calon Lân, dan arweiniad Andy Hickie.

Estynnwn wahoddiad cynnes i unigolion a mudiadau o bob rhan o’r sir, gan gynnwys yr holl ysgolion, i ymuno â’r hwyl ac i ddod â’u baneri lliwgar gyda nhw unwaith eto.

Dywedodd y Cyng. Brian Cameron, Maer Wrecsam:

“Bob blwyddyn mae Gorymdaith Gŵyl Ddewi Wrecsam yn ddathliad swnllyd a lliwgar o ddiwylliant Cymru sy’n denu llu o fynychwyr ac rwy’n siŵr na fydd eleni’n eithriad”

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu Dydd ein Nawddsant, felly defnyddiwch #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth, rannu lluniau neu ddilyn y digwyddiad drwy gydol y dydd.

Dylai pawb sy â diddordeb mewn ymuno neu wirfoddoli yn yr orymdaith gysylltu â Maiwenn Berry ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru