Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Tŷ Pawb, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu diwrnod o ddathlu i’r teulu cyfan ar Ddydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ar Ddydd Gwener, Fawrth y 1af.
Bydd Tŷ Pawb yn llawn bwrlwm gyda stondinau yn gwerthu cynnyrch Cymreig o 10:00y.b. ymlaen. Mi fydd digon i ddiddanu’r plant hefyd, gyda chrefftau a Sinema Atgofion yn y prynhawn yn arddangos rhai o hoff gartwnau Cymru, Wil Cwac Cwac a Superted.
Yr orymdaith flynyddol
Yn ôl yr arfer bydd yr orymdaith flynyddol hefyd yn ymgasglu tu allan i Neuadd y Dref o 12.45y.p. ymlaen gan ddechrau’n brydlon am 1.00y.p. o dan arweiniad ysbrydoledig Band Cambria. Mi fydd wedyn yn ymlwybro drwy’r dref cyn gorffen yn Nhŷ Pawb, lle bydd y dathliadau’n parhau gydag adloniant byw gan Gôr DAW ac Andie Hickie. Caiff enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri Gŵyl Dewi eu cyhoeddi a mi fydd cyfle hefyd i bawb ganu Calon Lân a Hen Wlad fy Nhadau.
Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Gill Stephen,
“Mae croeso mawr i bawb o bob oedran ymuno yn yr hwyl eto eleni, siaradwyr Cymraeg ai peidio. Mae’r digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn gyfle i bawb yn Wrecsam ddathlu Cymreictod y dref.
Mae hefyd amser o hyd i fusnesau gysylltu â ni i gofrestru a derbyn eu pecyn cychwynnol (rhad ac am ddim!) er mwyn cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri. Y syniad yw i addurno’r ffenestri ar thema Dydd Gŵyl Dewi a bydd tystysgrif a gwobr i’r busnes buddugol.”
Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru gyfan i ddathlu diwrnod arbennig Nawddsant Cymru, felly defnyddiwch #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, i rannu lluniau, ac i ddilyn hanes y diwrnod.
Dylai unrhyw un â diddordeb mewn ymuno yn yr orymdaith gysylltu â Anna Prysor Jones ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio anna@menterfflintwrecsam.cymru.