Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Tŷ Pawb, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu diwrnod o ddathlu i’r teulu cyfan ar Ddydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ar Ddydd Sul, Mawrth y 1af 2020.

Bydd Tŷ Pawb yn llawn bwrlwm gyda stondinau yn gwerthu cynnyrch Cymreig o 11:00y.b. ymlaen a cherddoriaeth fyw gan y gantores Megan Lee. Mi fydd digon i ddiddanu’r plant hefyd, gyda chrefftau yn y bore a Sinema Atgofion yn y prynhawn yn arddangos rhai o hoff gartwnau’r Cymry, Wil Cwac Cwac a Superted.

Yr Orymdaith Flynyddol 

Yn ôl yr arfer bydd yr orymdaith flynyddol hefyd yn cymryd lle, ac eleni mi fydd yn ymgynnull yn Nhŷ Pawb o 12.45y.p. ymlaen gan ddechrau’n brydlon am 1.00y.p. o dan arweiniad ysbrydoledig Band Cambria. Mi fydd wedyn yn ymlwybro drwy’r dref cyn gorffen yn ôl yn Nhŷ Pawb, lle bydd y dathliadau’n parhau gydag adloniant byw gan Ifton Colliery Band, Côr DAW ac Andy Hickie. Caiff enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri Gŵyl Ddewi eu cyhoeddi a mi fydd cyfle hefyd i bawb cyd-ganu Hen Wlad fy Nhadau a Calon Lân. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd eisiau ymuno yn y dathliadau.

Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Gill Stephen,

“Mae croeso mawr i bawb o bob oedran  ymuno yn yr hwyl eto eleni, siaradwyr Cymraeg ai peidio. Mae’r digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn gyfle i bawb yn Wrecsam ddathlu Cymreictod y dref.” 

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru gyfan i ddathlu diwrnod arbennig Nawddsant Cymru, felly defnyddiwch #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, i rannu lluniau, ac i ddilyn hanes y diwrnod.

Dylai unrhyw un â diddordeb mewn ymuno yn yr orymdaith gysylltu â Anna Prysor Jones o Fenter Iaith Fflint a Wrecsam neu ffonio’r swyddfa ar 01352 744 040.