Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Tŷ Pawb, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu wythnos gyfan llawn o ddathliadau rhithiol i ddathlu Gŵyl Ddewi eleni rhwng Mawrth 1af- 5ed.

Bydd y dathliadau yn wahanol i’r arfer ond rydym yn gobeithio y byddant yn adlewyrchu’r ffaith er ein bod ar wahân eleni rydym yn dal yn gallu dod ynghyd yn rhithiol i ddathlu Gŵyl Nawddsant Cymru yn ddiogel.  Mi fydd rhywbeth at ddant pawb a, gan gofio i ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser, mae’r Fenter am eich gwahodd i gymryd rhan mewn amryw o ffyrdd.

Sut i gymryd rhan?

Gorymdaith

Gyrrwch glipiau o’ch teulu, cydweithwyr, mudiad neu gymdeithas yn gorymdeithio.

Pasio’r Faner

Gyrrwch glipiau o bobl yn pasio baner Cymru i’w gilydd drwy ei dal ar eu hochr dde a’i thaflu ymlaen i’r ochr chwith.

“Pwy oedd Dewi Sant?”

Gyrrwch glip ohonoch chi neu aelod o’ch teulu yn ateb y cwestiwn uchod. Cadwch ei atebion mor fyr a chryno â phosib.

Dydd Gŵyl Dewi Hapus

Gyrrwch fideo ohonoch yn dymuno “Dydd Gŵyl Dewi Hapus” yn y Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith arall rydych chi’n ei siarad.

Mi fydd Eisteddfod rhithiol hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos gyda sawl cystadleuaeth i’r gymuned:

Coginio gyda chynnyrch lleol

Gyrrwch lun o’ch campwaith ynghyd â’r rysáit a llun o’r cynhwysyn/ion lleol.

Celf

Gyrrwch lun o eitem wedi’i greu o bethau wedi’u hailgylchu ar y thema, ‘Hanes Cymru’.

Ffotograffiaeth

Gyrrwch lun ar y thema ‘Natur’ neu ‘Harddwch Cymru’.

Limrig

Ysgrifennwch limrig gyda’r llinell gyntaf i gynnwys yr enw ‘Dewi’.

Cystadleuaeth i’r Dysgwyr

Ysgrifennwch ddeialog ar y thema ‘Mae’r Gymraeg i bawb’.

Am fanylion llawn yr holl gystadlaethau, dilynwch y ddolen hon ac am ganllawiau i’ch helpu i wneud y gwaith ffilmio, dilynwch y ddolen hon.

I gymryd rhan neu gystadlu yng nghystadlaethau’r Eisteddfod gyrrwch eich cyfraniadau/ eitemau ynghyd â chaniatâd i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol at maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru erbyn 5ed Chwefror gan nodi ym mha sir yr ydych yn byw.

Os am ymuno yn y dathliadau mewn unrhyw ffordd, cofiwch ddefnyddio’r hashnodau #DewiSiryFflint a #DewiWrecsam a chofiwch ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser.

Bydd yr holl fideos, lluniau, canlyniadau’r Eisteddfod yn ogystal ag amrywiaeth eang o weithgareddau eraill yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam rhwng Mawrth 1af- 5ed.