‘Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’ yw un ddyfyniadau mwyaf adnabyddus ein nawddsant Dewi Sant, a phob blwyddyn mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn ymgymryd a’r dasg o ledaenu’r neges, ynghyd a’r Gymraeg a’r ymdeimlad o berthyn ar draws y Sir i ddathlu’r diwrnod pwysig hwn. Eleni mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Treffynnon fe gynhaliwyd dathliad hwyneb yn hwyneb yn y dref am y tro cyntaf.
Cafwyd fore odidog gyda disgyblion Ysgol Bro Carmel, oedd ar agor er gwaethaf y streic, yn cyd-adrodd cerdd arbennig i ddathlu’r achlysur. Bu i artistiaid megis Jacob Elwy, Megan Lee ac Andy Hickie berfformio ar y llwyfan a gwych oedd gweld pawb yn mwynhau cyd-ganu’r anthem ac Yma o Hyd yng Ngerddi’r Tŵr a diolch yn arbennig i Fand Cambria am arwain yr orymdaith, i Morgan Thomas am gyflwyno ac i Maer Treffynnon; Y Cynghorydd Ian Hodge, a Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint; Y Cynghorydd Mared Eastwood am gyflwyno’r tystysgrifau i’r sawl oedd wedi dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth addurno ffenestri’r dref.





Nid busnesau Treffynnon oedd yr unig rhai i wneud sioe ohoni eleni gyda busnesau mewn 4 tref arall yn y Sir wedi cystadlu hefyd, felly diolch yn fawr i’r busnesau yn Shotton, Cei Connah, Y Fflint a’r Wyddgrug am gymryd rhan. Mae posib gweld mwy o luniau’r ffenestri buddugol ar ein cyfryngau cymdeithasol. Llongyfarchiadau gwresog iddynt oll.



Fe rannwyd pecynnau Dydd Gŵyl Dewi i feithrinfeydd a chartrefi preswyl oedd yn cynnwys syniadau a gweithgareddau i ddathlu, baneri bychain a chennin pedr i addurno yn ogystal a phecynnau i gaffis a chanolfannau cymunedol oedd hefyd yn cynnwys arwyddion ‘Ar agor/ar gau’ a ‘chroeso’, matiau bwrdd Magi Ann a llawer mwy. Ar y cyfryngau roedd modd i bobl gymryd yn ein Cwis Rhithiol, lliwio lluniau Magi Ann a’i ffrindiau, dilyn gweithdy yr artist Rhys Padarn (Orielodl) a gwylio ein fideo Symud gyda Tedi newydd. Cyfle i bawb ddathlu’r diwrnod mawr!
Ac yn olaf mae’r fenter yn diolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn ein fideo ‘Dydd Gŵyl Dewi Hapus’ a roddodd gwen ar hwynebau tîm y fenter a Nigel o Creative Jigsaw Production a roddodd y cyfanwaith at ei gilydd.