Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref Shotton a Chyngor Tref Cei Connah i drefnu Caffi Dathlu yng Nghei Connah fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Sir y Fflint.

Cynhelir y Caffi Dathlu yn Y Neuadd Ddinesig, Cei Connah rhwng 10.y.b- 12.y.h ar Ddydd Mawrth, Mawrth 3ydd, 2020 ac mae croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl yno. Bydd cyfle i fwynhau paned o de neu goffi tra’n mwynhau perfformiadau â blas Cymreig gan rai o ysgolion lleol Cei Connah a Shotton. Byddwn hefyd yn cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth addurno ffenestri Shotton a Cei Connah yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Gill Stephen,

“Mae croeso mawr i bawb o bob oedran ymuno yn yr hwyl, siaradwyr Cymraeg ai peidio. Dyma gyfle i bawb yn Nghei Connah a Shotton ddathlu Cymreictod eu tref. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr hefyd at weld y siopau wedi’u haddurno ar thema Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri.”

Cyhoeddir enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri yn ystod y digwyddiad a bydd tystysgrif a gwobr i’r busnesau buddugol.

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru gyfan i ddathlu diwrnod arbennig Nawddsant Cymru, felly defnyddiwch #DewiFflint ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, i rannu lluniau, ac i ddilyn hanes y diwrnod.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch â Maiwenn Berry neu ffoniwch y swyddfa ar 01352 744 040.