Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu dathliad Gŵyl Dewi yn Y Fflint ar Ddydd Llun, Mawrth 2il, 2020. Cynhelir y dathliadau eleni yng nghanol y dref gyda llwyfan wedi ei osod o flaen Eglwys y Santes Fair ar Stryd yr Eglwys, gyda’r dathliadau yn dechrau am 10y.b. Mae croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl. Bydd perfformiadau â blas Cymreig gan Band Cambria a gan ysgolion lleol i gofio diwrnod Nawddsant Cymru.

Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Gill Stephen,

“Mae croeso mawr i bawb o bob oedran ymuno yn yr hwyl eto eleni , siaradwyr Cymraeg ai peidio.  Mae’r digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn gyfle i bawb yn y Fflint i ddathlu Cymreictod y dref. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr eto eleni at weld siopau’r dref wedi’u haddurno ar thema Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri hefyd.”

Cyhoeddir enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri yn ystod y digwyddiad a bydd tystysgrif a gwobr i’r busnesau buddugol.

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru gyfan i ddathlu diwrnod arbennig Nawddsant Cymru, felly defnyddiwch #DewiFflint ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, i rannu lluniau, ac i ddilyn hanes y diwrnod.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Maiwenn Berry neu ffoniwch y swyddfa ar 01352 744 040.