Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu dathliad Gŵyl Dewi sydd hefyd yn ddathliad o ieuenctid, diwylliant a hunaniaeth Gymreig y dref yn Y Fflint ar ddydd Gwener, Chwefror 22ain, 2019.

Cynhelir y dathliadau yng nghanol y dref gyda llwyfan wedi ei osod o flaen Eglwys y Santes Fair ar Stryd yr Eglwys, gyda’r dathliadau yn dechrau am 10y.b. Mae croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl. Bydd perfformiadau â blas Cymreig gan ysgolion a cherddorion lleol i gofio diwrnod Nawddsant Cymru. Bydd Maer y Fflint yn cyhoeddi enillwyr y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Gill Stephen,

“Mae croeso mawr i bawb o bob oedran ymuno yn yr hwyl eto eleni , siaradwyr Cymraeg ai peidio.  Mae’r digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn gyfle i bawb yn y Fflint dathlu Cymreictod y dref.  Mae amser o hyd i fusnesau gysylltu â ni i gofrestru a derbyn eu pecyn cychwynnol (rhad ac am ddim!) er mwyn cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri hefyd. Y syniad yw i addurno ffenestri siopau’r dref ar thema Dydd Gŵyl Dewi a bydd tystysgrif a gwobr i’r busnesau buddugol.”

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad neu’r gystadleuaeth addurno ffenestri gysylltu â Maiwenn Berry ar 01352 744 040 neu e-bostio maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru