Cwis Cymraeg Ysgolion Sir Wrecsam

Ar ddydd Iau Hydref 26ain, 2017, mewn cydweithrediad â Llyfrgelloedd Sir Wrecsam cynhaliodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam gwis i ysgolion cynradd Cymraeg Sir Wrecsam.

Daeth disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ysgolion Llanarmon D.C, Cynddelw, Bryn Tabor, Plas Coch, Bodhyfryd ac I.D Hooson i Blas Pentwyn, Coedpoeth i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Eleni mae Cymru yn dathlu ei gorffennol, ei phresennol a’i dyfodol. Felly, a hithau’n flwyddyn Chwedlau yng Nghymru eleni, roedd hi’n addas iawn bod cwestiynau’r cwis wedi’u seilio ar chwedl Branwen allan o lyfr Sîan Lewis “Pedair Cainc y Mabinogi”.

Yn ystod y bore, bu’r disgyblion yn ddigon ffodus o gael gweithdy ysgrifennu gan Casia Wiliam, y Bardd Plant Cymru presennol. Bu’r disgyblion yn brysur iawn yn astudio chwedl  Branwen yn eu hysgolion o flaen llaw ac yn ystod y prynhawn bu’r disgyblion yn gweithio’n galed i ateb cwestiynau amrywiol y cwis.

Dywedodd Gwen Smith, Swyddog Datblygu’r Fenter:

“Roedd yn bleser cyfarfod pawb a chynnal y cwis mewn cyd-weithrediad â Llyfrgelloedd Sir Wrecsam. Mae diolch arbennig i’w gyfleu i’r plant a ddaeth i gynrychioli eu hysgolion gan eu bod i gyd wedi cystadlu ac wedi ymddwyn mor dda.”

Roedd y tîm buddugol yn derbyn tlws llechen arbennig wedi’i gwneud gan Eirian Evans i’w dychwelyd yn nôl i’w hysgol. Llongyfarchiadau mawr i Ioan Jones, Aled Cooper, Ella Jones, Henri Jones a Joshua Hodsgon o Ysgol Bodhyfryd am ddod yn fuddugol ac am lwyddo i ennill y tlws hon.