Ar Ddydd Iau, 24ain o Hydref, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Wrecsam cynhaliodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam gwis i ysgolion cynradd Cymraeg Sir Wrecsam.

Cwis Ysgolion Cynradd Cymraeg Wrecsam

Daeth cynrychiolaeth o flynyddoedd 5 a 6 ysgolion Bryn Tabor, Bro Alun a Bodhyfryd  i Blas Pentwyn, Coedpoeth i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Ers sawl blwyddyn bellach, mae’r Fenter wedi bod yn cynnal cwis i Ysgolion Cynradd Cymraeg Wrecsam er mwyn codi ymwybyddiaeth y disgyblion o chwedlau Cymreig. Y chwedl o dan sylw eleni oedd Chwedl Dreigiau Dinas Emrys, sy’n arwyddocaol gan ei fod yn 60 mlynedd eleni ers i faner y Ddraig Goch gael ei gwneud yn faner swyddogol Cymru.

Roedd yn amlwg bod y disgyblion wedi bod yn brysur iawn yn paratoi  o flaen llaw gan bod eu dealltwriaeth o’r chwedl yn wych. Drwy gydol y bore bu’r disgyblion yn gweithio’n galed i ateb cwestiynau amrywiol yn seiliedig ar y chwedl. Yna, i ddilyn y cwis, cafodd y disgyblion gyfle i wneud marc llyfr draig goch gan ddefnyddio’r grefft origami a croesawyd Fiona Collins, Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 2019 i gynnal gweithdy hwyliog i gyd-fynd â’r cwis yn y prynhawn.

Dywedodd Anna Prysor Jones, Swyddog Datblygu a Chyfathrebu’r Fenter:

“Hoffem ddiolch yn  fawr iawn i’r dair ysgol a gymerodd ran yn y cwis eleni. Roedd yn bleser cynnal y cwis mewn cyd-weithrediad â Llyfrgelloedd Sir Wrecsam ac yn ffodus iawn o allu croesawu Fiona Collins atom i gynnal gweithdy i’r disgyblion. Mae diolch arbennig i’w gyfleu i’r disgyblion a ddaeth i gynrychioli eu hysgolion gan eu bod wedi ymddwyn mor dda ac wedi dysgu eu gwaith yn drwyadl- roedd y sgôr mor agos! Diolch hefyd i’r athrawon am eu paratoi ar gyfer y cwis.”

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, dychwelodd y dlws llechen arbennig a wnaed gan Eirian Evans nôl i Ysgol Bodhyfryd, wrth iddynt ddod yn fuddugol ar ddiwedd y cwis. Llongyfarchiadau mawr iawn iddynt.