Cwis Ysgolion Cymraeg Sir Wrecsam

Ar fore dydd Iau Hydref 25ain, 2018, mewn cydweithrediad â Llyfrgelloedd Sir Wrecsam cynhaliodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam gwis i ysgolion cynradd Cymraeg Sir Wrecsam.

Daeth disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ysgolion, Bryn Tabor, Bodhyfryd, I.D Hooson a Plas Coch i Ysgoldy Capel y Groes, Wrecsam i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Fel dilyniant i gwis Cymraeg Ysgolion Sir Wrecsam 2017, penderfynwyd seilio cwestiynau’r cwis eleni ar ddwy chwedl arall. Y ddwy chwedl oedd ‘Cantre’r Gwaelod’ a ‘Rhys a Meinir’.

Roedd yn amlwg iawn bod y disgyblion wedi bod yn paratoi ac wedi astudio’r ddwy chwedl yn drwyadl iawn gan bod eu dealltwriaeth o’r chwedlau yn wych. Drwy gydol y bore bu’r disgyblion yn gweithio’n galed i ateb cwestiynau amrywiol y cwis.

Dywedodd Anna Prysor Jones, Swyddog Datblygu a Chyfathrebu’r Fenter:

“Hoffem fel Menter ddiolch yn fawr iawn i’r ysgolion a ddaeth i gymryd rhan yn y cwis. Roedd yn bleser cyfarfod pawb a chynnal y cwis mewn cyd-weithrediad â Llyfrgelloedd Sir Wrecsam. Mae diolch arbennig i’w gyfleu i’r disgyblion a ddaeth i gynrychioli eu hysgolion gan eu bod wedi ymddwyn mor dda ac hefyd i’r athrawon am eu paratoi ar gyfer y cwis.”

Unwaith eto eleni, derbyniodd y tîm buddugol y dlws llechen arbennig wedi’i gwneud gan Eirian Evans i’w dychwelyd yn nôl i’w hysgol. Am yr ail flwyddyn yn olynol, daeth Ysgol Bodhfyryd yn fuddugol. Llongyfarchiadau mawr iddynt.