Ar Ddydd Gwener, 9fed o Chwefror bydd Cymru gyfan yn dathlu’r cyfoeth o gerddoriaeth Cymraeg sydd gennym ni yma yng Nghymru ac mae Menter Iaith Ffint a Wrecsam yn edrych ymlaen i gefnogi Dydd Miwisg Cymru 2018.
Bu Dydd Miwsig Cymru 2016 a 2017 yn hynod lwyddiannus gyda enwau mawr y byd cerddorol megis Tim Burgess o’r Charlatans, Cerys Matthews, Fred Perry UK, Huw Stephens, Bethan Elfyn, Adam Walton, Heavenly Recordings a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ymuno yn yr hwyl gan rannu cynnwys Cymraeg ar y dydd. Llwyddodd yr hashnod #DyddMiwisgCymru i gyrraedd 3 miliwn o bobl gyda miloedd yn trydar ynghylch y diwrnod. A’r gobaith eleni y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cymryd rhan yn y diwrnod arbennig hwn.
Os ydych chi’n hoff o gerddoriaeth indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw fath o gerddoriaeth arall, mae cerddoriaeth anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg- dyma neges DJ Radio 1, Huw Stephens a Llysgennad i’r diwrnod. Mae’n annog pobl ledled Cymru i gymryd rhan a dod o hyd i’w hoff sain newydd ar y diwrnod. Boed yn unigolyn, grwp, sefydliad, ysgol, siop neu gaffi, gall unrhyw un gymryd rhan yn y diwrnod.
Am fwy o fanylion am y diwrnod dilynwch @Cymraeg ar Twitter neu Cymraeg ar Facebook.
Dathlu’r diwrnod yn Y Fflint ac Wrecsam
Mae’r diwrnod yn gyfle gwych i ddathlu amrywiaeth a thalent cerddorol sydd gennym ni yma yng Nghymru a dyma flas o’r digwyddiadau a fydd yn cymryd lle yn Y Fflint ac Wrecsam i ddathlu.
Cerddoriaeth Fyw
Dewch draw am baned i Gaffi’r Hen Lys, Y Fflint, Dydd Gwener, 9fed Chwefror 2018 rhwng 1:00-2:00.p.m a chewch chi gyfle i wrando ar Jacob Elwy yn perfformio’n fyw. Mae Jacob Elwy yn dod o Lansannan, Sir Ddinbych. Mae’n chwarae gyda’r band ifanc poblogaidd, Trŵbz ond yn canu ar ben ei hun hefyd. Llwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau 2016, a mae’n bosib cael blas ar ei gerddoriaeth yma.
Gig yn Undegun, Wrecsam
Dewch yn llu i UNDEGUN, 11 Regent Street, Wrecsam ar y nos Wener 9fed o Chwefror am 7:00.p.m. Ynghyd a dau fand sydd ar frig sîn gerddoriaeth Gymraeg, Mei Emrys a Calfari bydd dau fand lleol gwych, Delta Radio Band a The Cazadors yn perfformio ar y noson hefyd. Dewch yn llu! Mwy o fanylion am y gig yma.
Felly cerwch amdani, lledaenwch y cariad a’r gerddoriaeth ar y diwrnod gan ddefnyddio’r hashnod #DyddMiwsigCymru #WelshLanguageMusicDay.