Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi llwyddo’i sicrhau dyfarniad Nod Ansawdd PQASSO yn ddiweddar sydd yn cydnabod y gwaith rhagorol mae’n gwneud fel un o fudiadau’r trydydd sector yng Nghymru.
Dywed Gareth Hughes, Cadeirydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam;
“ Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd Marc Safon PQASSO Lefel 1. Mae hyn yn adlewyrchiad o waith caled pawb sydd ynghlwm â Menter Iaith Fflint a Wrecsam ac ymroddiad ein staff a Chyfarwyddwyr at waith y Fenter.”
Mae PQASSO yn rhan o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cenedlaethol (National Council for Voluntary Organistaion – NCVO), a hwn yw’r unig safon ansawdd yn y Deyrnas Unedig sydd wedi’i gynllunio i helpu mudiadau trydydd sector i weithredu’n fwy effeithiol ac effeithlon. Aseswyd Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn erbyn yr 11 safon o arferion effeithiol a geir yn PQASSO gan gynnwys: llywodraethu; arweinyddiaeth a rheolaeth; rheoli staff a gwirfoddolwyr a rheoli arian. Llwyddodd y Fenter i brofi eu bod yn cyrraedd pob un o’r safonau hyn.
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn un o 22 Menter Iaith ar draws Cymru yn gweithio i gynyddu a chefnogi defnydd o’r Gymraeg o fewn y gymuned leol. Mae pob Menter yn gweithio’n wahanol, yn ôl anghenion penodol eu hardaloedd gan drefnu digwyddiadau yn y gymuned, cynnal gweithgareddau i blant a theuluoedd, ac yn cynnig cymorth i fusnesau a gwasanaethau sydd eisiau defnyddio mwy o’r Gymraeg. Mae’r Fenter Iaith leol hefyd yn gallu eich cyfeirio at wasanaethau a gweithgareddau Cymraeg lleol a dosbarthiadau dysgu Cymraeg i Oedolion.
Dywed Heledd Kirkbride, Swyddog PQASSO Cymru, NCVO:
“Rydym yn falch iawn bod ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi sicrhau Nod Ansawdd PQASSO. Rydym yn gwybod bod mudiadau sy’n defnyddio PQASSO yn elwa o gael: gwell llywodraethiant; gwell systemau a gweithdrefnau a gwell ansawdd gwasanaeth i’w defnyddwyr ac mae’n wych bod cymuned defnyddwyr PQASSO yn tyfu yng Nghymru.”