Ionawr 11, 2019 1:30 pm - Chwefror 15, 2019 2:15 pm
Cwrs 6 wythnos
Dydd Gwener, 11/01/19 – 15/02/19
Lleoliad:
Amser:
1:30 – 2:15.p.m
Pris:
£1.50 y sesiwn
Gwybodaeth bellach:
Ar ddechrau blwyddyn newydd mae sesiynau Arth Jimmy a’i ffrindiau yn ffordd wych i gadw’n heini ar ôl y Nadolig. Sesiynau symud a gymnasteg syml i blant dan oed ysgol (0-4 oed) a’u rhieni yw Arth Jimmy sydd wedi cael eu datblygu gan adran hamdden Cyngor Sir y Fflint. Mae’r sesiynau i gyd wedi’u selio ar stori neu lyfr penodol, sydd yn arwain at ganeuon, symudiadau a gweithgareddau corfforol. Archebwch eich lle ar lein isod neu drwy gysylltu drwy ebost neu ffôn. Gellir talu ar ddechrau pob sesiwn.
Dyma flas i chi o’r hwyl rydym wedi cael yn ystod sesiynau blaenorol yn Llyfrgell Wrecsam!
Am fwy o fanylion, cysylltwch:
anna@menterfflintwrecsam.cymru
01352 744 040