Cwis Dwyieithog Yr Wyddgrug
Mawrth 12, 2020 7:30 pm - 9:00 pm
Nos Iau, 12/03/20
Lleoliad:
Castell Rhuthun, Yr Wyddgrug
Amser:
7:30.p.m
Pris:
£1 y person
Gwybodaeth bellach
Bydd Noson Cwis Dwyieithog nesaf yr Wyddgrug yn cael ei gynnal yn nhafarn Castell Rhuthun, Yr Wyddgrug ar nos Iau, 12fed o Fawrth. Bydd y noson hon yn wych ar gyfer dysgwyr oherwydd natur anffurfiol a chyfeillgar y noson- caiff pob cwestiwn ei ofyn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Felly os ydych chi eisiau ymarfer eich Cymraeg neu eisiau dysgu rhywfaint o ffeithiau newydd, diddorol dewch draw i ymuno â ni.
Mae croeso cynnes i bawb, a mi fydd gwobr i’r tîm buddugol…!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch:
anna@menterfflintwrecsam.cymru
01352 744 040