Mawrth 1, 2026 12:45 pm - 1:45 pm

Mae Gorymdaith Gŵyl Ddewi Wrecsam yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ers tro byd, ac mae’r dathliadau yn ôl unwaith eto ar gyfer 2026!

Eleni, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn trefnu dathliad ar ddydd Sul, Mawrth 1af 2026, ac yn estyn gwahoddiad i phobl ifanc, teuluoedd, ffrindiau, mudiadau, busnesau, sefydliadau ac y gymuned gyfan i ddathlu’r achlysur. Bydd y farchnad misol yn ymuno ar y dydd Sul yn ogystal â cherddoriaeth byw, canu clychau yn Eglwys San Silyn a bydd y Maer yn cyflwyno gwobr cystadleuaeth addurno ffenestri i’r enillwyr.

Bydd yr orymdaith yn ymgynnull o flaen Neuadd y Dref (Llwyn Isaf) o 12:45pm cyn cychwyn yn brydlon am 1:00pm dan arweiniad Band Cambria, gan deithio drwy’r dref cyn gorffen nôl ar Llwyn Isaf lle bydd cyfle i bawb gyd-ganu Calon Lân a’r Anthem Genedlaethol.

Bydd croeso cynnes i bawb ar y diwrnod!