Chwefror 27, 2026 10:15 am - 11:30 am

Eleni, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint, wedi trefnu gorymdaith i ysgolion y Fflint drwy ganol y dref ar ddydd Gwener, 27 Chwefror 2026.

Bydd cyfle i weld yr orymdaith yn teithio i Eglwys Santes Fair cyn ymuno yn y parti gyda cherddoriaeth Gymraeg, dawnsio ar y stryd a chanu gyda’n gilydd i ddathlu ein nawddsant.