Hydref 17, 2023 7:30 pm - 9:30 pm Neuadd Oliver Jones, Dolywern
Ar yr wyneb mae’n blanhigyn cwbl wahanol, ond yr un yw’r gwraidd.
Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae’r ddau’n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae’r clymau’n dechrau datod.
Mae cefn gwlad yn newid a’r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad.
Mae’r ddrama yma’n siŵr o daro tant gyda’n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw.
Cast: Rhian Blythe a Siôn Pritchard.
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd
Canllaw Oed: 14 + (defnydd o Iaith gref).
Lleoliad: Neuadd Oliver Jones, Dolywern
Dyddiad: 17.10.23
Amser: 7:30pm
Tocynnau: £12 : https://www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw neu ffoniwch 01352 744040 neu e-bostiwch maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru.