Groto Siôn Corn.
Dewch i gwrdd â Siôn Corn yn Lle Hapus Wrecsam. Bydd cyfle i glywed stori wreiddiol gan ‘y dyn ei hun’ cyn ymuno yn hwyl yr ŵyl gan greu addurniadau Nadolig, ysgrifennu llythyr at Siôn Corn a chael ymweld fel teulu â’r Groto i sgwrsio a dymuno Nadolig Llawen i’r dyn a’i farf llaes a’i wallt gwyn.
Byddwn yn agor y drysau i bawb am 4pm neu 6pm gan ddechrau’r sesiwn gyda stori cyn i bawb ymuno yn y sesiwn creu crefftau Nadoligaidd. Yn ystod y sesiwn grefft bydd y teuluoedd yn derbyn slot amser penodol i ymweld â Siôn Corn ac yn eu tro yn cael eu galw draw i’r groto i drafod hynt a helyntion y flwyddyn a’r hyn y maent eisiau y Nadolig hwn.£4 am y plentyn cyntaf ac yna £2 am bob plentyn ychwanegol! Am ddim i rieni a gwarchodwyr.
Llefydd yn brin. Archebwch yn fuan yma
https://www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw/groto-sion-corn-lle-hapus-wrecsam/e-odogda
Nodwch fod hwn yn ddigwyddiad iaith Gymraeg i blant.