Tachwedd 18, 2023 10:00 am - 12:00 pm Capel Penbryn Chapel - Treffynnon / Holywell

I ddathlu’r datblygiad cyffrous diweddaraf; Cyfres Ddarllen magi Ann, dyma ddatgan y bydd Parti Dathlu Llyfrau Magi Ann yn cael ei gynnal yn Nhreffynnon ar Ddydd Sadwrn Tachwedd 18fed rhwng 10 y bore a 12 o’r gloch.

Yn y Parti bydd cyfle i ddarllen ac i ganu yng nghwmni Magi Ann a’i ffrind Tedi, bydd y consuriwr lleol Professor Llusern yn ymuno i ddiddanu pawb gyda’i driciau hud a lledrith.  Bydd hefyd cyfle i ni ddiolch yn fawr i’r awdures Mena Evans am ei holl waith a chefnogaeth dros y blynyddoedd.

I archebu lle: www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw