Dewch i fwynhau Cyfres o Weithgareddau Symud i Blant yn ystod sesiynau Ti a Fi, Glyn Ceiriog!
Mae’r sesiynau’n cynnwys:
✨ Gweithgareddau symud a chwarae i helpu gyda datblygiad corfforol a chydsymud
✨ Canu caneuon hwyliog i ymarfer geiriau a symudiadau gyda’ch plentyn
✨ Stori fer a chyfle wedyn i ymlacio a mwynhau amser tawel gyda’n gilydd
Mae’r gweithgareddau wedi’u cynllunio i fod yn syml, difyr a chyfeillgar, gyda chyfle perffaith i chi dreulio amser arbennig gyda’ch plentyn. Mae croeso mawr i bawb – boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn ddysgwyr, neu heb lawer o Gymraeg eto.
Dewch i ddawnsio, canu, chwarae a chreu atgofion melys gyda’ch plentyn yn yr amgylchedd diogel a chroesawgar yma.
Dyddiad y gweithgareddau yw –
03.11.25
10.11.25
17.11.25
24.11.25
01.12.25
08.12.25