Estyn Croeso
Deilliodd grŵp Estyn Croeso o’r cynllun peilot Caffi Stori, sef grŵp o bobl o bob oed oedd yn cyfarfod i gymdeithasu gyda phwyslais ar ddefnyddio’r Gymraeg. Oherwydd llwyddiant y fenter honno mae’r criw wedi parhau i gyfarfod yn fisol yn Neuadd Bentref Treuddyn o dan enw newydd, Estyn Croeso; gyda’r mynychwr ieuengaf ond ychydig fisoedd oed a’r hynaf bron yn 90 oed.
Gyda chymorth un o brosiectau Menter Iaith Fflint a Wrecsam, y Prosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog, mae grŵp Estyn Croeso bellach wedi sefydlu pwyllgor cymunedol swyddogol ac yn bwriadu trefnu nifer o ddigwyddiadau cyffrous a hwyliog dros y flwyddyn nesaf. Cyllidwyd y prosiect newydd hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru- Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Prynhawn Hwyl Estyn Croeso
Ar Ddydd Gwener, 16eg o Awst fe gynhaliwyd prynhawn hwyl Estyn Croeso yn Neuadd Bentref Treuddyn, sef digwyddiad i ddod â’r hen a’r ifanc ynghyd. Roedd amryw o weithgareddau ar gyfer pob oed yn ystod y prynhawn gyda chwrs antur, crefftau a phaentio wynebau i’r rhai iau a bwrdd hanes am ardal Treuddyn i’r rhai hŷn a chyfle i bawb dod at ei gilydd a sgwrsio dros baned a chacen. Daeth hyd yn oed Magi Ann a Dewin draw i ymuno yn yr hwyl. Roedd yn ddigwyddiad perffaith i’r gymuned leol ddod ynghyd; ac i ddysgwyr gael dod i ymarfer a defnyddio’u Cymraeg gyda Chymry Cymraeg yr ardal. Mae gweithgareddau eraill eisoes wedi’u trefnu ar gyfer y flwyddyn i ddod gan gynnwys Te Prynhawn ar ddechrau mis Medi.
Dywedodd un o fynychwyr Prynhawn Hwyl Estyn Croeso;
“’Dwi’n falch iawn o weld y neuadd yn llawn prysurdeb gyda’r plant bach yn mwynhau, a’r mamau yn dod i nabod ei gilydd a sgwrsio.”
Prosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog
Bwriad Prosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog yw helpu cymunedau i sefydlu grwpiau cymunedol neu gynnig cymorth i grwpiau sydd eisoes yn bodoli, a hynny er mwyn cynnal digwyddiadau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu hardaloedd lleol. Y gobaith yw y bydd cymorth gan Swyddog Datblygu Cymunedau Dwyieithog Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn ystod y flwyddyn yn galluogi i griw Estyn Croeso fod yn hunangynhaliol ac yn parhau i gynnal digwyddiadau yn y gymuned leol yn y dyfodol.