Profiad braf eithriadol yn Wrecsam eleni wrth i dros fil o bobl ymuno yn nathliadau Dydd Gŵyl Dewi a drefnwyd gan Fenter Iaith Maelor mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Roedd y dref dan ei sang gyda baneri Cymru a chennin Pedr wrth i bobl o bob oed ddod i wylio’r orymdaith trwy’r dref dan arweiniad medrus Band Cambria.
Roedd ‘na berfformiadau arbennig yn Sgwâr y Frenhines ar ddiwedd y daith gan Gôr Cymunedol Wrecsam a disgyblion Ysgol Cefn Mawr cyn i bawb ymuno i gyd-ganu’r Anthem Genedlaethol.
Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Maelor.
“Roedd hi’n arbennig o braf eleni i weld cymaint o gynrych
iolaeth gan ysgolion Wrecsam, gyda dros 500 o blant yn ymuno yn y dathliadau.
Mae’r orymdaith a dathliadau dydd Gŵyl Dewi wedi bod yn tyfu pob blwyddyn yn ddiweddar ac wedi dod i fod yn ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr tref fwyaf y gogledd.
Rydym yn edrych ymlaen at weld yr orymdaith yn parhau i ddatblygu a thyfu yn y blynyddoedd nesaf.”