Tydy Taid ddim yma mwyach – ond, yng nghistiau’r atig, mae ei straeon yn disgwyl i Gwen eu darganfod…
Ar Ddydd Iau, 17eg o Hydref, mi fydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn croeaswu sioe i blant o’r enw Dygwyl y Meirw i Tŷ Pawb, Wrecsam.
Dathlu chwedlau ein hynafiad
Sioe dymhorol i blant yw Dygwyl y Meirw sy’n ddathliad o chwedlau ein hynafiaid, o gylch bywyd, ac o sut mae hogan fach yn dod i delerau â marwolaeth ei thaid.
Gyda chymorth cymeriadau ‘bwci bo’ Cymreig fel yr Hwch Ddu Gota, y Ladi Wen a Jac y Lantarn, mae Gwen y darganfod bywyd newydd yn straeon ei thaid, a dyfodol fel storiwr ei hun. Mae’r sioe yn gyfuniad o bypedau, actorion, triciau, ysbrydion hedegog, cysgodion, goleuadau iasoer a cherddoriaeth ac yn gorffen ar nodyn hapus a gobeithiol.
Seren Ddu a Mwnci
Awdures a chyfarwyddwraig y sioe yw Angela Roberts sef sefydlydd cwmni proffesiynol cynhyrchu sioeau theatrau, Seren Ddu a Mwnci. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelodd Angela bod bwlch i’w lenwi mewn darpariaeth pypedau i blant yn y Gymraeg ac o ganlyniad fe aeth ati i greu dwy sioe lwyddiannus, ‘Drwg’ a ‘Bwystfilod’ mewn partneriaeth â Theatr Bara Caws. Dygwyl y Meirw yw ei sioe gyntaf o dan enw ei chwmni newydd a hynny gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r cynllunydd a’r bypedwraig Efa Dyfan yn raddedig o Goleg Celf Caeredin. Mae hi wedi gwneud cyrsiau byr efo’r London School of Puppetry, Little Angel Puppet Theatre ac un o wneuthurwyr pypedau Spitting Image. Erbyn hyn, mae’n awyddus i drosglwyddo ffrwyth yr ymchwil i mewn i ddatblygiad technegau cyflwyno a manipiwleiddio pypedau yng Nghymru.
Mae Mirain Fflur wrth ei bodd yn perfformio i blant. Mae’n gyfarwydd iawn fel un o gyflwynwyr y gyfres teledu i blant, Pigo Dy Drwyn. Yn Dygwyl Y Meirw mae’n chwarae lli, siarad efo sgerbydau a dal gwyfynnod tân – yn ei cheg!
Mae’r actor, Llŷr Edwards wedi gweithio ym maes theatr i blant a phobl ifanc ers ugain mlynedd bellach, ac wedi lleisio a phypedu ar raglenni teledu Dwdlam ac Yn yr Ardd. Un o’i dasgau yn Dygwyl Y Meirw fydd gwneud i’w ben droi 360 gradd!
Y Sioe ar Daith
Cwblhaodd y sioe daith lwyddiannus iawn o Ogledd Cymru yr hydref diwethaf, ac o ganlyniad i alw mawr, mae hi ear daith unwaith eto ar draws Cymru yn y cyfnod hyd at Galan Gaeaf 2019.
Mae’r sioe yn addas i blant 4-12 oed a’u teuluoedd a mae croeso i bawb fynychu’r sioe mewn gwisg Calangaeaf. Bydd dau berfformiad o’r sioe yn Nhŷ Pawb, ar yr 17eg o Hydref, un am 1:30pm a’r llall am 5:00pm. Cost tocynnau yw £5 i blant ac oedolion, neu mae tocyn teulu yn £18 (4 person) ac ar gael drwy ddilyn y ddolen yma.
Cynhelir Dygwyl y Meirw yn Wrecsam gyda chefnogaeth Tŷ Pawb a Chynllun Noson Allan.