Chris Baglin

Wel, dyma ni y Nadolig wedi cyrraedd unwaith eto, diolch i’r drefn, er ei bod hi’n teimlo fel ddoe ers i staff y fenter ymfalchïo wedi i holl ddigwyddiadau Haf o Hwyl gyda Tudur Phillips, Anni Llŷn, Professor Llusern ac eraill ddod i derfyn. Ond dyma ni wedi cyrraedd diwedd 2022 ac yn paratoi am y seibiant a’r holl ddathlu sydd i ddod.

Mae’r fenter eisoes wedi dechrau ar y dathlu yma yn Siroedd Fflint a Wrecsam gyda dim un ond dau groto gyda’r Siôn Corn go iawn (hwnnw sy’n siarad Cymraeg, wrth gwrs 😉) Roedd yn braf cael rhoi gwên ar wynebau nifer fawr o blant ym Mhafiliwn Jade Jones, y Fflint wrth i’r teuluoedd ymuno mewn sesiwn stori, addurno addurniadau Nadolig, ysgrifennu llythyr at y dyn ei hyn a llawer mwy!

Cawsom hefyd gymorth gan gorachod gwych o Goleg Cambria a ddaeth i wirfoddoli, Diolch yn fawr iawn!

…ac yna Nhŷ Pawb, Wrecsam, gyda’r canu “Pwy sy’n dŵad dros y bryn?” yn atseinio o’r nenfwd uchel ac yn werth i’w glywed hefyd!

Ond nid yw traddodiadau ‘r Nadolig wedi gorffen eto! Mae cyfnod y gwasanaethau Plygain yn agosáu. Os nad ydych yn gyfarwydd â Charolau Plygain, mae hon yn hen draddodiad sydd i’w weld a’i chlywed hyd heddiw mewn sawl ardal ar draws Cymru gan gynnwys Sir y Fflint a Wrecam, ceir wybodaeth amdanynt yn ein calendr digwyddiadau ar ein gwefan neu ar gyfer rhai ardaloedd eraill ewch i www.plygain.org.

A gyda llygad arall ar ddathliadau ‘r flwyddyn newydd, mi fydd Dawnswyr Delyn yn carlamu o dafarn i dafarn gyda’r Fari Lwyd ar y 6ed o Ionawr gan gychwyn am am 7 o’r gloch. Hefyd bydd modd ymuno yn y Twmpath ddawns ar y 7fed o Ionawr yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Yr Wyddgrug, am 7.30pm. Dewch i fwynhau’r dathliadau gyda ni!

Cyn cloi felly, hoffwn ofyn cwestiwn, pwy sydd wedi clywed am y blwch Nadolig? neu’r Christmas Box fel oeddan ni’n deud yn blentyn? Oedd o’n draddodiad yn eich ochr chi o’r byd?

Dwi’n cofio pan oeddwn yn blentyn y bobl hŷn a charedig yn y pentref yn rhoi pishyn hanner can ceiniog neu debyg i mi adeg yma o’r flwyddyn a dweud “rhywbeth i roi yn dy Christmas Box.”

Nid oeddwn wedi deall tan yn ddiweddar bod hyn yn hen draddodiad yng Nghymru (yn ôl cyfrol am hanes y Nadolig roeddwn i’n pori trwyddi’n ddiweddar). Yn ôl y gyfrol, yn y dyddiau cyn papur lapio, roedd plant Cymru yn cadw bocs bach o dan y goeden, ac yn ystod mis Rhagfyr yn derbyn man bethau; teganau, fferins, arian ac ati i roi yn y bocs i’w agor ar fore’r Nadolig (nid Xboxes, ffonau symudol a sothach tebyg).

Oes rhywun arall wedi clywed sôn am y blwch Nadolig neu’r Christmas Box? Efallai gan rieni neu neiniau a theidiau? Rhowch wybod i ni a rhannwch eich traddodiadau chithau!

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!