Beth yw Menter Iaith?
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru
Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasnaethu pob rhan o Gymru. Mae pob Menter Iaith wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol er mwyn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau.
Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Eich Menter Iaith Leol Chi
Yn 2017 daeth dwy fenter iaith leol ynghyd i greu Menter newydd – Menter Iaith Fflint a Wrecsam.
Lleolir swyddfa’r Fenter yn yr Wyddgrug, gan wasanaethu pob ardal a holl drigolion y ddwy sir.
Ein prif feysydd gwaith yma yn siroedd y Fflint a Wrecsam ydy:
Teuluoedd: Mae ein gweithgareddau a phrosiectau yn annog trosglwyddo’r iaith yn y cartref, tynnu sylw at fanteision dewis Addysg Gymraeg, ac yn cefnogi defnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau gofal a chwarae.
Plant a Phobl Ifanc: Rydym yn gweithredu i gynyddu’r ddarpariaeth hamdden a chymunedol ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn rhoi cyfle iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol tu allan i’r ysgol.
Y Gymuned: Trwy gydweithio a siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn eu cymunedau eu hunain rydym yn gweithio i gryfhau’r iaith fel iaith gymunedol, naturiol.
Menter Iaith Fflint a Wrecsam yw eich Siop un stop am y Gymraeg, felly, os oes gennych chi gwestiwn ynglŷn a’r Gymraeg yn siroedd y Fflint a Wrecsam, cofiwch gysylltu a ni.