Tîm y Fenter
Gill Stephen
Prif Swyddog
Mae Gill Stephen yn Brif Swyddog ers 2013, mae hi’n rheoli’r Fenter o ddydd i ddydd ac yn gyfrifol am ddatblygiad strategol y Fenter.
Gwen Smith
Swyddog Busnes
Mae Gwen yn gweithio i’r Fenter ers 2016 ac yn gyfrifol am weinyddiaeth a chyllid y Fenter. Mae Gwen hefyd yn cefnogi a chynorthwyo gwaith y swyddogion datblygu gyda digwyddiadau cymunedol.
Maiwenn Berry
Swyddog Datblygu a Chyfathrebu
Mae Maiwenn yn gweithio i’r Fenter ers 2018, yn wreiddiol fel Swyddog Datblygu yn trefnu ac yn cynnal gweithgareddau cymunedol, ond bellach yn gyfrifol am farchnata a chyfathrebu’r Fenter hefyd.
Chris Baglin
Swyddog Datblygu
Mae Chris wedi ail ymuno â’r tîm fel Swyddog Datblygu rhan-amser ers Ionawr 2022, a phrif nod ei swydd yw trefnu a chynnal gweithgareddau Cymraeg a dwyieithog yn y gymuned.
Bronwen Wright
Swyddog Prosiect Achlysurol
Ers 2019 mae Bronwen wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r tîm, yn cefnogi a chynorthwyo gwaith y swyddogion datblygu yn ogystal ag arwain ar ambell i brosiect hefyd.
Ffion Whitham
Swyddog Helo Blod Lleol
Ar ôl dechrau yn 2014 fel Swyddog Busnes y Fenter, ers 2016 mae Ffion wedi bod yn gweithio fel Swyddog ‘Helo Blod Lleol’ yn hybu manteision dwyieithrwydd i fusnesau yn Sir y Fflint a Wrecsam.
Bwrdd Rheoli
Gareth Hughes
Cadeirydd
Nia Wyn Jones
Ysgrifennydd
Elgan Davies-Jones
Trysorydd
Disgrifiad i’w gweld yma