Wythnos diwethaf cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol y pedwar person a fyddai’n cystadlu am wobr Dysgwr y flwyddyn yn y brifwyl ar Ynys Môn eleni. Cynhaliwyd y rownd cyn derfynol ar ddydd Sadwrn 29ain o Orffennaf yn Llangefni.

Un o’r pedwar hynny yw Hugh Brightwell. Un o Ellsmere Port yw Hugh Brightwell, ac er iddo fyw yn Lloegr ar hyd ei oes,  mae’n wyneb cyfarwydd iawn i gymdeithasau Sir Y Fflint ac Wrecsam.  Bwriad gwreiddiol ef a’i wraig Gilly oedd symud i Gymru a dysgu rhywfaint o’r iaith Gymraeg. Ond wrth i’w ddiddordeb a’i ddealltwriaeth o hanes a diwylliant Cymru gynyddu, cynyddodd ei awydd i ddysgu mwy o’r Gymraeg hefyd.

Mae’n ceisio treulio gymaint o’i amser rhydd mewn dosbarthiadau neu unrhyw weithgareddau Cymraeg yn yr ardal. Mae’n aelod o gôr DAW- Dysgwyr Ardal Wrecsam ac hefyd yn gynrychiolydd amlwg o Glwb Clebran Saith Seren, Wrecsam, grŵp sy’n helpu dysgwyr i gael blas o’r Gymraeg. Hefyd, mae’n bellach yn llywydd i Gymdeithas Wil Bryan, Yr Wyddgrug, grŵp o ddynion sy’n cyfarfod unwaith bob mis i gymdeithasu yn y Gymraeg ac wedi ymaelodi gyda grŵp tebyg, Meibion Maelor yn ardal Wrecsam. Cymru Fyw sydd wedi cael cyfle i siarad â Hugh am ei brofiad yn cystadlu am y wobr.

Y tri ymgeisydd llwyddiannus arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol o’r gystadleuaeth yw Emma Chappell o Ddeiniolen, Gwynedd, Richard Furniss o Langefni a Daniela Schlick o Borthaethwy, Ynys Môn.

Dywedodd Elwyn Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Dysgwr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn: “Mae’n biti nad oes modd i bawb gyrraedd y rown derfynol, gan fod y safon y mor uchel, a phawb yn ysbrydoliaeth, nid yn unig i ddysgwr eraill ond i Gymry Cymraeg hefyd.”

“Mae’n brofiad arbennig cael cyfarfod a siarad gyda’r rheiny sydd wedi cystadlu a chlywed am sut mae dysgu Cymraeg wedi siapio a newid eu bywyd.”

“Rydym yn llongyfarch pob un ymgeisydd yn wresog, ac yn diolch iddyn nhw, nid yn unig am gystadlu ond am eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant. Dymuniadau da i bob un ohonyn nhw yn y dyfodol,” meddai.

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig a £300 ac yn cael ei wahodd i fod yn aelod o’r orsedd, a bydd y tri arall hefyd yn derbyn tlysau.

Caiff enillydd y gystadleuaeth ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Môn mewn noson arbennig yng Nghwesty Tre Ysgawen, Llangefni ar Awst y 9fed.