Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn cyfarfod â Magi Ann

Cafodd disgyblion Ysgol Bro Alun, Gwersyllt sesiwn stori a chân arbennig iawn gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam ddydd Gwener 9fed o Fawrth wrth i Magi Ann ddod i ymweld â’r ysgol. A hithau wedi bod yn Ddydd Gŵyl Dewi yr wythnos flaenorol, thema’r sesiwn oedd Gŵyl Dewi.

Roedd yr ysgol yn dathlu Diwrnod y Llyfr yn ystod y diwrnod hefyd. Roedd hi felly’n yn addas iawn eu bod yn cael mwynhau ‘Cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi’- un o’r straeon ar apiau Magi Ann.

Cymeriad Poblogaidd

Mae Magi Ann bellach yn un o hoff gymeriadau plant bach Cymru, ac mae ei straeon ar chwech o apiau arbennig wedi, ac yn parhau, i helpu plant Cymru a gwledydd eraill ar draws y byd i ddysgu sut i ddarllen Cymraeg gyda’u rhieni mewn modd cyfoes, hwyliog a chyffrous.

Yn 2017, llwyddodd prosiect apiau Magi Ann ennill Gwobr Loteri Genedlaethol  am y prosiect addysg gorau a bellach mae’r apiau wedi’u lawrlwytho dros 150,000 o weithiau.

Gwesteion Arbennig

Ond nid Magi Ann oedd yr unig westai arbennig yn ystod y dydd, gan bod Eluned Morgan, Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes hefyd yn bresennol. Roedd y sesiwn hon yn Ysgol Bro Alun yn gyfle i’r Gweinidog weld yr ap ar waith fel enghraifft o waith y Fenter yn yr ardal.

Roedd Y Cynghorydd Hugh Jones o Wrecsam, Mr Hari Bryn Jones, Cadeirydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Alun Evans ar ran Mena Evans, Carwyn Davies,Uwch Swyddog Cefnogi Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Ffion Hughes, Swyddog Siarter Iaith Fflint a Wrecsam hefyd yn bresennol.

Cafwyd llawer o hwyl yng nghwmni’r disgyblion, Magi Ann a’r Gweinidog wrth iddynt gael gwisgo dillad traddodiadol Gymreig, dysgu sut i glocsio a chanu ambell i gân. I gloi’r prynhawn, cafodd y disgyblion gymryd rhan mewn helfa Magi Ann a’i ffrindiau a chael mynd a chacen a llyfr gweithgareddau Magi Ann adref hefo nhw.