Mae colofnydd Lingo360, Francesca Sciarrillo, wedi ‘sgwennu am ei phrofiad o siarad am ei thaith i’r iaith yn ein cyfarfod blynyddol diweddar ac hefyd am gyd-weithio gyda’r fenter yn rhinwedd ei swydd gyda’r Llyfrgelloedd yn Sir y Fflint.

Wythnos yma, mi ges i’r fraint o fod yn siaradwr gwadd yng Nghyfarfod Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Mae’r fenter yn trefnu a chynnal bob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gymunedau Sir y Fflint a Wrecsam er budd y Gymraeg.
Dros y flwyddyn ddiwethaf dw i wedi cael y cyfle i gydweithio efo tîm Y Fflint a Wrecsam trwy fy ngwaith efo’r llyfrgelloedd yn Sir y Fflint. Efo’n gilydd, rydyn ni wedi cynnal gwahanol sesiynau i blant ac oedolion o bob oedran, gan gynnwys sesiynau celf a digwyddiadau efo awduron...
i barhau i ddarllen erthygl Francesca ewch draw i wefan Lingo360…
Hoffai’r fenter ddiolch i Francesca am gytuno i siarad ein cyfarfod ac hefyd am yr holl gyd-weithio yn 2022, gobeithio y bydd cyfle i barhau i gyd-weithio a chynnal digwyddiadau i blant ac oedolion yn 2023.
