Sefydlwyd Ffair Cynnyrch y Gogledd Ddwyrain ar y cyd gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam, Menter Iaith Conwy a Menter Iaith Sir Ddinbych i gefnogi cynhyrchwyr lleol y Gogledd Ddwyrain.
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, roedd y tair Menter yn teimlo ei bod hi’n bwysicach nag erioed i brynu’n lleol a chefnogi busnesau bach. Mae gan Ffair Cynnyrch y Gogledd Ddwyrain dudalen ar Facebook sy’n rhoi llwyfan i grefftwyr a gwneuthurwyr lleol hyrwyddo eu cynnyrch.
Cynhelir y Ffair gyntaf ar y dudalen Facebook ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 4ydd rhwng 10am- 2pm, a bydd amrywiaeth o fusnesau ar draws y Gogledd Ddwyrain yn cymryd rhan yn y Ffair hon.
Er mwyn gweld y diweddaraf a pha fusnesau lleol sydd yn cymryd rhan yn Ffair Cynnyrch y Gogledd Ddwyrain, hoffwch a dilynwch y dudalen Facebook. Os hoffech fwy o wybodaeth am y Ffair ebostiwch anna@menterfflintwrecsam.cymru.