Yn dilyn rhagolygon tywydd garw ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, gwnaed y penderfyniad i ohirio Dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Y Fflint.

Bydd y dathliad nawr yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher, Mawrth 7fed gan ddechrau am 10a.m 07/03/2018 o flaen Eglwys Santes Fair ar Stryd yr Eglwys, Y Fflint. Estynnir croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl. Bydd perfformiadau â blas Cymreig gan ysgolion a cherddorion lleol i ddathlu dydd ein Nawddsant

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r swyddfa drwy ffonio 01352744040.