Cannoedd o ddisgyblion lleol yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Cafwyd bore braf eithriadol yn Y Fflint ar Fawrth y 7fed wrth i ddisgyblion ysgolion lleol a thrigolion y dref ddod ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Yn hwyrach na’r disgwyl oherwydd y tywydd garw ar ddiwrnod Nawddsant Cymru ei hun, trefnwyd y dathliad yng nghanol tref y Fflint o flaen Eglwys Santes Fair ar Stryd yr Eglwys gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.
I gychwyn y dathliadau perfformiodd Band Cambria ac i ddilyn cafwyd perfformiadau â blas Cymreig iddynt gan rai o’r ysgolion lleol, gyda’r cyfan oll yn cael ei gyflwyno gan Michael Ruggerio (‘Mic ar y Meic’). I ddod â’r dathliadau i ben, ymunodd pawb i gyd-ganu Calon Lân a’r Anthem Genedlaethol. Ymunodd y cymeriadau poblogaidd Magi Ann, Dewin Mudiad Meithrin, a chymeriadau’r Siarter Iaith, Seren a Sbarc yn y dathlu hefyd!
Cystadleuaeth addurno ffenestri
Gwobrwywyd enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri hefyd. Cystadleuaeth yw hon i annog busnesau’r dref i addurno eu ffenestri ar y thema Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu popeth Cymraeg. Daeth y Maer i’r canlyniad hwn:
1af- Lloyd’s Pharmacy
Yr arddangosfa fuddugol
2il- Llyfrgell Y Fflint
Cydradd 3ydd- St. Kentigern, Hospis Tŷ’r Eos
Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
“Gwych iawn eleni i weld cymaint o blant Y Fflint yn ymuno yn y dathliadau. Braf iawn hefyd oedd gweld cymaint o bobl lleol yn dod allan i wylio’r perfformiadau ac ymuno yn yr hwyl.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Sir y Fflint am eu cefnogaeth oedd yn gwneud y dathliadau’n bosibl ac i Gyngor Tref y Fflint am eu cymorth a chydweithrediad parod. Rydym yn arbennig o ddiolchgar hefyd i Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant am y croeso cynnes a chymorth ymarferol! Braf oedd cael cwmni Dirprwy Maer y Fflint wrth iddo gyhoeddi enillwyr y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri a chyflwyno’r gwobrau.
Mae dathliadau dydd Gŵyl Dewi y Fflint wedi bod yn tyfu pob blwyddyn ac erbyn hyn wedi’i sefydlu fel digwyddiad poblogaidd yng nghalendr y dref. Rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i dyfu a pharhau i ddod â’r gymuned at ei gilydd i’r dyfodol.”